Llyfr Esra 6:5
A llestri tŷ DDUW hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddug Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a ddug efe adref i Babilon, rhodder hwynt i’w dwyn i’r deml yn Jerwsalem, i’w lle, a gosoder hwynt yn nhŷ DDUW.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Yn dair rhes o feini mawr, a rhes o goed newydd: a rhodder y draul o dŷ y brenin.
Cross References
2 Kings 24:13Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin, ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nhemi yr AR¬GLWYDD, fel y llefarasai yr ARGLWYDD. º
2 Chronicles 36:6Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, ac a’i rhwymodd ef mewn cadwynau pres, i’w ddwyn i Babilon.
2 Chronicles 36:18Holl lestri tŷ DDUW hefyd, mawrion a bychain, a thrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau y brenin a’i dywysogion; y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon.
Ezra 5:14A llestri tŷ DDUW hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a’u dygasai i deml Babilon, y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog;
Jeremiah 27:18Ond os proffwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr ARGLWYDD gyda hwynt, eiriolant yr awr hon ar ARGLWYDD y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin. Jwda, ac yn Jerwsalem, i Babilon. º
Daniel 1:2A’r ARGLWYDD a roddes i’w law Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ DDUW; yntau a’u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.