Llyfr Esra 9:12
Ac yn awr, na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na chymerwch eu merched hwynt i’ch meibion chwi, ac na cheisiwch eu heddwch hwynt na’u daioni byth: fel y cryfhaoch, ac y mwynhaoch ddaioni y wlad, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion byth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 18:18Canys Abraham yn ddïau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.
Exodus 34:15Rhag i ti wneuthur cyfammod â phreswylwyr y tir; ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwytta o’u haberth;
Deuteronomy 7:3Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt; na ddod dy ferch i’w fab ef, ac na chymmer ei ferch ef i’th fab dithau.
Deuteronomy 23:7¶ Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Aiphtiad; o herwydd dïeithr fuost yn ei wlad ef.
Joshua 23:12Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyd â chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn attynt hwy, a hwythau attoch chwithau:
2 Chronicles 19:2A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o’i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casau yr ARGLWYDD, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD sydd arnat ti.