Llythyr Paul at y Galatiaid 2:8
(Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:)
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at y Galatiaid 2
Cross References
Acts 1:8Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear.
Acts 2:14Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddy¬wedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau:
Acts 4:4Eithr llawer o’r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi’r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil.
Acts 8:17Yna hwy a ddodasant eu dwylo arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glân.
Acts 13:2Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, Neilltuwch i mi Barnabas a Saul, i’r gwaith y gelwais hwynt iddo.
Acts 15:12A’r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cen¬hedloedd trwyddynt hwy.