Llythyr Paul at y Galatiaid 2:9
A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau-ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur.
Read all of Llythyr Paul at y Galatiaid 2
Cross References
Matthew 16:18Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.
Acts 15:7Ac wedi bod ymddadlau mawr, cyfododd Pedr, ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o’r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu,
Acts 15:22Yna y gwelwyd yn dda gan yr apos¬tolion a’r henuriaid, ynghyd a’r holl eglwys, anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain, i Antiocbia, gyda Phaul a Barn¬abas; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr:
Romans 12:3Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.
Romans 15:15Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw;
2 Corinthians 8:4Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint.