Llythyr Paul at y Galatiaid 3:17
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o’r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw’r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o fynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at y Galatiaid 3
Cross References
Genesis 15:18Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfammod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:
Genesis 17:19A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddïau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhâf fy nghyfammod âg ef yn gyfammod tragywyddol, ac â’i had ar ei ol ef.
Numbers 23:19Nid dyn yw Duw, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhâu: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?
Job 40:8A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun?
Isaiah 14:27Oherwydd ARGLWYDD y lluoedd a’i bwriadodd, a phwy a’i diddyma? ei law ef hefyd a estynnwyd, a phwy a’i try yn ôl? º
Luke 1:68Bendigedig fyddo Argtwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl;