Llythyr Paul at y Galatiaid 3:19
Beth gan hynny yw’r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai’r had, i’r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd angylion yn llaw cyfryngwr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
20A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un.
Read all of Llythyr Paul at y Galatiaid 3
Cross References
Exodus 20:19A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandâwn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw.
Exodus 34:27Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena i ti y geiriau hyn: oblegid yn ol y geiriau hyn y gwneuthum gyfammod â thi, ac âg Israel.
Deuteronomy 4:8A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddyw ger eich bron chwi?
Deuteronomy 5:22¶ Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynnulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmmwl, a’r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifenodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes attaf fi.
Deuteronomy 9:25A mi a syrthiais ger bron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o’r blaen; am ddywedyd o’r Arglwydd y difethai chwi.
Deuteronomy 33:2Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddaeth allan o Sinai, ac a gododd o Seir iddynt; ymlewyrchodd o fynydd Paran, ac efe a ddaeth gyd â myrddiwn o saint, a thanllyd gyfraith o’i ddeheulaw iddynt.