Llythyr Paul at y Galatiaid 3:8
A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abram gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.
9Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon.
Read all of Llythyr Paul at y Galatiaid 3
Cross References
Genesis 12:3Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felldithwyr a felldigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.
Genesis 22:18Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrandaw o honot ar fy llais i.
Genesis 28:14A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r dehau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.
Psalms 72:7Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.
Isaiah 65:9Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a’m hetholedigion a’i hetifeddant, a’m gweision a drigant yno. º
John 7:42Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod?