Llythyr Paul at y Galatiaid 6:2
Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.
Beibl (1620)
In The King James Version
Bear ye one another’s burdens, and so fulfil the law of Christ.
In Context
3Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun.
Read all of Llythyr Paul at y Galatiaid 6
Cross References
Numbers 11:11Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?
1 Chronicles 19:12Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn gyn-horthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a’th gyn-orthwyaf dithau. º
Matthew 8:17Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.
Luke 11:46Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion a beichiau anodd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd a’r beichiau ag un o’ch bysedd.
John 13:34Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd.
Romans 8:2Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.