Llyfr Genesis 17:13
Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragywyddol.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 9:16A’r bwa a fydd yn y cwmmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio y cyfammod tragywyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
Genesis 15:3Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd.
Genesis 37:36A’r Midianiaid a’i gwerthasant ef i’r Aipht, i Putiphar tywysog Pharaoh, a’r distain.
Exodus 12:44Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwytty o hono.
Exodus 21:4Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched; y wraig a’i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun.
Leviticus 22:11Ond pan bryno yr offeiriad ddyn am ei arian, hwnnw a gaiff fwytta o hono, a’r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwytta o’i fara ef.