Llyfr Genesis 17:23
¶ Ac Abraham a gymmerodd Ismael ei fab, a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian, pob gwrryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dïenwaediad hwynt o fewn corph y dydd hwnnw, fel y llefarasai Duw wrtho ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a Duw a aeth i fynu oddi wrth Abraham.
24Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddïenwaediad ef.
Cross References
Genesis 17:10Dyma fy nghyfammod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ol di: enwaedir pob gwrryw o honoch chwi.
Genesis 18:19Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo yr Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano.
Joshua 5:2¶ Y pryd hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Gwna i ti gyllyll llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith.
Proverbs 27:1Nac ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.
Acts 16:3Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe a’i cymerth ac a’i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef.
Romans 4:9A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder.