Llyfr Genesis 31:42
Oni buasai fod Duw fy nhad, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyd â mi, dïau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylaw, ac a’th geryddodd di neithiwyr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 16:11Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di.
Genesis 27:33Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a’i dug i mi, a mi a fwytteais o’r cwbl cyn dy ddyfod, ac a’i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe.
Genesis 31:5Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynebpryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tu ag attaf fi: a Duw fy nhad a fu gyd â myfi.
Genesis 31:24A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan o honot wrth Jacob na da na drwg.
Genesis 31:53Duw Abraham, a Duw Nachor, a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac.
Deuteronomy 15:13A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag: