Llyfr Genesis 35:18
Darfu hefyd, wrth ymadael o’i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben-oni: ond ei dad a’i henwodd ef Benjamin.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem.
Cross References
Genesis 35:24Meibion Rahel; Joseph, a Benjamin.
Genesis 42:38Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyd â chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd-ddi, yna chwi a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch.
Genesis 44:27A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;
Exodus 12:7A chymmerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gappan drws y tai y bwyttânt ef ynddynt.
1 Chronicles 4:9Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr; a’i fam a alwodd ei enw ef Jabes, gan ddywedyd, Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid.