Llyfr Genesis 35:23
Meibion Leah; Reuben, cyntaf-anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Judah, ac Issachar, a Zabulon.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
24Meibion Rahel; Joseph, a Benjamin.
Cross References
Genesis 29:32A Leah a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: o herwydd hi a ddywedodd, Dïau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngwr a’m hoffa i.
Genesis 33:2Ac ym mlaen y gosododd efe y ddwy law-forwyn, a’u plant hwy, a Leah a’i phlant hithau yn ol y rhai hynny, a Rahel a Joseph yn olaf.
Genesis 49:3¶ Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.
Numbers 1:5¶ A dyma enwau’r gwŷr a safant gyd â chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedëur.
Numbers 2:3¶ A’r rhai a wersyllant o du y dwyrain tu a chodiad haul, fydd gwŷr llumman gwersyll Judah, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Judah fydd Nahson mab Aminadab.
Numbers 10:14¶ Ac yn gyntaf y cychwynodd llumman gwersyll meibion Judah yn ol eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.