Llyfr Genesis 35:5
A hwy a gychwynasant: ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ol meibion Jacob.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6¶ A Jacob a ddaeth i Luz, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a’r holl bobl y rhai oedd gyd âg ef;
Cross References
Exodus 15:15Yna y synna ar dduciaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a’u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.
Exodus 34:24Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fynu i ymddangos ger bron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn.
Joshua 2:9A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r Arglwydd i chwi y wlad; o herwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonnasant rhag eich ofn.
1 Samuel 11:7Ac efe a gymerth bar o ychen, ac a’u drylliodd, ac a’u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i’w wartheg ef. Ac ofn yr ARGLWYDD a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd. º
2 Chronicles 14:13Ac Asa a’r bobl oedd gydag ef a’u herlidiasant hwy hyd Gerar: a syrthiodd yr Ethiopiaid fel na allent ymatgryfhau; canys drylliasid hwynt o flaen yr AR¬GLWYDD, ac o flaen ei lu ef; a hwy a ddygasant ymaith anrhaith fawr iawn.
2 Chronicles 17:10Ac arswyd yr ARGLWYDD oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Jwda, fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Jehosaffat.