Llyfr Genesis 35:7
Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El-bethel, oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef, pan ffoisai efe o ŵydd ei frawd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6¶ A Jacob a ddaeth i Luz, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a’r holl bobl y rhai oedd gyd âg ef;
Cross References
Genesis 12:7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Genesis 28:10¶ A Jacob a aeth allan o Beer-seba ac a aeth tu a Haran.
Genesis 28:17Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw y lle hwn! nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.
Genesis 28:22A’r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ Dduw; ac o’r hyn oll a roddech i mi gan ddegymu mi a’i degymmaf i ti.
Genesis 31:13Myfi yw Duw Bethel, lle yr enneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.
Genesis 35:3A chyfodwn, ac esgynwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i Dduw, yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyd â myfi yn y ffordd a gerddais.