Llyfr Genesis 43:16
A Joseph a ganfu Benjamin gyd â hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i’r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwytta gyd â myfi ar hanner dydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17A’r gwr a wnaeth fel y dywedodd Joseph: a’r gwr a ddug y dynion i dŷ Joseph.
Cross References
Genesis 15:2A dywedodd Abram, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddiblant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleazar yma o Damascus.
Genesis 24:2A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd:
Genesis 31:54Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwytta bara: a hwy a fwyttasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd.
Genesis 43:19A hwy a nesasant at y gwr oedd olygwr ar dŷ Joseph, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ,
Genesis 44:4Hwythau a aethant allan o’r ddinas. Ac nid aethant neppell, pan ddywedodd Joseph wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ol y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda?
Proverbs 9:2Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd.