Llyfr Genesis 43:18
A’r gwŷr a ofnasant, pan ddygpwyd hwynt i dŷ Joseph; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y dygpwyd nyni i mewn; i fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i’n cymmeryd ni yn gaethion, a’n hasynod hefyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17A’r gwr a wnaeth fel y dywedodd Joseph: a’r gwr a ddug y dynion i dŷ Joseph.
19A hwy a nesasant at y gwr oedd olygwr ar dŷ Joseph, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ,
Cross References
Genesis 42:27Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y lletty; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt y’ngenau ei ffettan ef.
Genesis 42:35¶ Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt-hwy a’u tad, ofni a wnaethant.
Deuteronomy 22:14A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymmerais; a phan euthum atti, ni chefais ynddi forwyndod:
Judges 13:22A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig, Gan farw y byddwn feirw; canys l;welsom DDUW. º
Job 15:21Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno.
Psalms 53:5DUW a’th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela.