Llyfr Genesis 48:20
Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed Duw di fel Ephraim, ac fel Manasseh. Ac efe a osododd Ephraim o flaen Manasseh.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:60Ac a fendithiasant Rebeccah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
Numbers 2:18¶ Lluman gwersyll Ephraim fydd tu a’r gorllewin, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Ephraim fydd Elisama mab Ammihud.
Numbers 7:54¶ Ar yr wythfed dydd yr offrymmodd Gamaliel mab Pedasur, tywysog meibion Manasseh.
Numbers 13:8Dros lwyth Ephraim, Osea mab Nun.
Numbers 13:16Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.
Ruth 4:11A’r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a’r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr ARGLWYDD a wnelo y wraig sydd yn dyfod i’th dy di fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adeiladasant ill dwy dy Israel; a gwna di rymustra yn Effrata, bydd enwog yn Bethlehem: