Llyfr Genesis 48:4
Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a’th wnaf yn ffrwythlawn, ac a’th amlhâf, ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ol di, yn etifeddiaeth dragywyddol.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 13:15Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth.
Genesis 17:8A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ol di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragywyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.
Genesis 22:17Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhâu yr amlhâf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar làn y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion;
Genesis 28:3A Duw Hollalluog a’th fendithio, ac a’th ffrwythlono, ac a’th lïosogo, fel y byddech yn gynnulleidfa pobloedd:
Genesis 32:12A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddïau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.
Genesis 46:3Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aipht; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.