Llyfr Habacuc 2:19
Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg: wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o'i fewn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
20Ond yr ARGLWYDD sydd yn ei deml sanctaidd: y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef.
Cross References
Psalms 97:7Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r ARGLWYDD, rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
Isaiah 40:19Y crefftwr a dawdd gerfddelw, a’r eurych a’i goreura, ac a dawdd gadwyni arian. º
Isaiah 46:6Hwy a wastraffant aur o’r pwrs, ac a bwysant arian mewn dorian, a gyflogant eurych, ac efe a’i gweithia yn dduw; gostyngant, ac ymgrymant. º
Jeremiah 10:4Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo.
Jeremiah 10:14Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt.
Daniel 3:1Nebuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur, ei huchder oedd yn drigain cufydd, ei lled yn chwe chufydd; ac efe a’i gosododd hi i fyny yng ngwastadedd Dura, o fewn talaith Babilon.