Llyfr Habacuc 3:13
Aethost allan er iachawdwriaeth i'th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter.
Cross References
Exodus 12:29¶ Ac ar hanner nos y tarawodd y Arglwydd bob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig Pharaoh yr hwn a eisteddai ar ei frenhin-faingc, hyd gyntaf-anedig y gaethes oedd yn y carchardy; a phob cyntaf-anedig i anifail.
Exodus 15:1Deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thri ugain, yn Elim. Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a’i farchog i’r môr.
Joshua 10:24A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gyd âg ef, Nesêwch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.
Joshua 11:8A’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u tarawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misrephoth-maim, ac hyd glyn Mispeh o du y dwyrain; a hwy a’u tarawsant hwynt, fel na adawodd efe o honynt un y’ngweddill.