Llyfr Haggai 2:4
Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr ARGLWYDD, ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr ARGLWYDD, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 31:23Efe a orchymynodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfhâ, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyd â thi.
Joshua 1:9Oni orchymynais i ti? Ymgryfhâ, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, i ba le bynnag yr elych.
1 Samuel 16:18Ac un o’r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a’r ARGLWYDD sydd gydag ef. º
1 Chronicles 22:13Yna y flynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses am Israel* ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda. º
Haggai 1:13Yna Haggai cennad yr ARGLWYDD a lefarodd trwy genadwri yr ARGLWYDD wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyda chwi, medd yr ARGLWYDD.
Mark 16:20A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ymmhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.