Y Llythyr at yr Hebreaid 10:22
Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glan.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
21A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw:
23Daliwn gyffes ein gobaith yn ddisigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;)
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 10
Cross References
Leviticus 8:6A Moses a ddug Aaron a’i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr.
Numbers 8:7Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhâu; taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnant i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt.
1 Kings 15:3Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o’i flaen dF: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel calon Dafydd ei dad. º
1 Chronicles 28:9A thithau Solomon fy mab, adne-bydd DDUW dy dad, a gwasanaetha ef a chalon berffaith, ac a meddwl ewyllysgar: canys yr ARGLWYDD sydd yn Chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd. º
Psalms 9:1I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd. ARGLWYDD ein IOR ni, mor arddercog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd.
Psalms 51:10Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.