Y Llythyr at yr Hebreaid 10:25
Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai, ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
24A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da:
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 10
Cross References
Matthew 24:33Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau.
John 20:19Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
Acts 2:1Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle.
Acts 16:16A digwyddodd, a ni’n myned i weddïo, i ryw lances, yr hon oedd ganddi ysbryd dewiniaeth, gyfarfod â ni; yr hon oedd yn peri llawer o elw i’w meistriaid wrth ddywedyd dewiniaeth.
Romans 12:8Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd.
1 Corinthians 3:13Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a’i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a’r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw.