Y Llythyr at yr Hebreaid 12:15
Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw, rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd:
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 12
Cross References
Exodus 32:21A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr?
Deuteronomy 29:18Rhag bod yn eich mysg wr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddyw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:
Joshua 6:18Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y dïofryd-beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddïofryd-beth, os cymmerwch o’r dïofryd-beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddïofryd-beth, ac y trallodech hi.
Joshua 22:17Ai bychan gennym ni anwiredd Peor, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho etto hyd y dydd hwn, er bod pla ym mysg cynnulleidfa yr Arglwydd,
Proverbs 4:23Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.
Isaiah 5:7Diau, gwinllan ARGLWYDD y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais, am gyfiawnder, ac wele lef.