Y Llythyr at yr Hebreaid 12:25
Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear, mwy o lawer ni ddihangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 12
Cross References
Exodus 16:29Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Sabbath; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd.
Numbers 32:15Os dychwelwch oddi ar ei ol ef; yna efe a âd y bobl etto yn yr anialwch, a chwi a ddinystriwch yr holl bobl hyn.
Joshua 22:15A hwy a ddaethant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasseh, i wlad Gilead; ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd,
1 Kings 12:16A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i’th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i’w pebyll. º
Proverbs 1:24Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;
Proverbs 8:33Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi.