Y Llythyr at yr Hebreaid 12:7
Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag a feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6Canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu, y mae’n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 12
Cross References
1 Samuel 2:29Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm, y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?
1 Samuel 3:13Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt.
1 Kings 1:6A’i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost fel hyn? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd; ac efe a anesid wedi Absalom.
Job 34:31Ond wrth DDUW, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd;
Proverbs 19:18Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha.
Proverbs 23:13Na thyn gerydd oddi wrth dy blentyn: os curi ef â gwialen, ni bydd efe farw.