Y Llythyr at yr Hebreaid 12:9
Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 12
Cross References
Exodus 20:12¶ Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
Numbers 16:22A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysprydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?
Deuteronomy 21:18¶ Ond o bydd i wr fab cyndyn ac anufudd, heb wrandaw ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, in wrendy arnynt:
Job 12:10Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.
Ecclesiastes 12:7Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at DDUW, yr hwn a’i rhoes ef.
Isaiah 42:5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, creawdydd y nefoedd a’i hestyn-" nydd; lledydd y ddaear a’i chnwd; rhoddydd anadl i’r bobl arni, ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi: º