Y Llythyr at yr Hebreaid 2:9
Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r angylion, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 2
Cross References
Psalms 21:3Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela.
Isaiah 11:1YNA y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef. º
Matthew 6:28A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu:
Mark 9:1A efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai o’r rhai sydd yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.
John 1:29Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd.
John 8:52Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a’r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd.