Y Llythyr at yr Hebreaid 3:5
A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw.
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 3
Cross References
Exodus 14:31A gwelodd Israel y grymmusder mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Aiphtiaid: a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i’r Arglwydd ac i’w was ef Moses.
Deuteronomy 3:24O Arglwydd Dduw, tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd, a’th law gadarn; oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ol dy weithredoedd a’th nerthoedd di?
Deuteronomy 34:5¶ A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno, yn nhir Moab, yn ol gair yr Arglwydd.
Joshua 1:7Yn unig ymgryfhâ, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ol yr holl gyfraith a orchymynodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddehau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.
Joshua 8:31Megis y gorchymynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haiarn arnynt: a hwy a offrymmasant arni boeth-offrymmau i’r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd.
Nehemiah 9:14A’th Saboth sanctaidd a hysbysaist iddynt; gorchmynion hefyd, a deddfau, a chyfreithiau a orchmynnaist iddynt, trwy law Moses dy was: