Y Llythyr at yr Hebreaid 5:14
Eithr bwyd cryf a berthyn i’r rhai perffaith, y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13Canys pob un a’r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyf- iawnder; canys maban yw.
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 5
Cross References
2 Samuel 14:17A’th lawforwyn a ddywedodd, Bydded, atolwg, gair fy arglwydd frenin yn gysur: canys fel angel Duw yw fy Arglwydd frenin, i wrando’r da a’r drwg: a’r Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi.
1 Kings 3:11A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn:
Job 12:11Onid y glust a farna ymadroddion? a’r genau a archwaetha ei fwyd?
Song of Solomon 2:3Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a’i ffrwyth oedd felys i’m genau.
Matthew 5:48Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.