Y Llythyr at yr Hebreaid 6:11
Ac yr ydym yn chwennych fod i bol un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 6
Cross References
Isaiah 32:17A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch. a diogelwch, hyd byth. º
Romans 5:2Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw.
Romans 12:8Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd.
Romans 15:13A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.
1 Corinthians 15:58Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.
Galatians 6:9Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.