Y Llythyr at yr Hebreaid 9:15
Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd, megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf, y câi’r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Oblegid lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr.
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 9
Cross References
Isaiah 53:10Eithr yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn abcrth dros bechod, efe a wel ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr ARGLWYDD a lwydda yn ei law ef. º
Matthew 19:29A phob un a’r a adawodd dai neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda efe.
Matthew 25:36Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf.
Luke 18:18A rhyw lywodraethwr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragwyddol?
Romans 3:24A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu:
Romans 5:8Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom, oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni.