Y Llythyr at yr Hebreaid 9:19
Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a’i taenellodd ar y llyfr a’r bobl oll,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed.
20Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi.
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 9
Cross References
Exodus 24:5Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel; a hwy a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd.
Leviticus 1:10¶ Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offrymma efe boeth-offrwm; offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl.
Leviticus 14:4Yna gorchymyned yr offeiriad i’r hwn a lanhêir, gymmeryd dau aderyn y tô, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop.
Leviticus 16:14A chymmered o waed y bustach, a thaenelled â’i fys ar y dru gareddfa tu a’r dwyrain: a saith waith y taenella efe o’r gwaed â’i fys o flaen y drugareddfa.
Numbers 19:18A chymmered isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd âg asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd:
Isaiah 52:15Felly y taenella efe genhedloedd lawer; brenhinoedd a gtieant eu genau wrtho ef; canys gwelant yr hya ai fynegasid.’riddynt, a deallant yr hyn ni chlywsent.