Y Llythyr at yr Hebreaid 9:26
(Oblegid yna rhaid fuasai iddo’n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
27Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn:
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 9
Cross References
Leviticus 16:21A gosoded Aaron ei ddwylaw ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch.
2 Samuel 24:10A chalon Dafydd a’i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr ARGLWYDD, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O ARGLWYDD, anwiredd dy was, canys ynfyd iawn y gwneuthum. º
Isaiah 2:2A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr ARGLWYDD wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn.ddyrchafedig goruwch y bryniau, a’r holl genhedloedd a ddylifant ato.
Daniel 10:14A mi a ddeuthuin i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i’th bobl yn y dyddiau diwethaf: oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer.
Matthew 25:34Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd.
John 17:24Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn ewllysio, lle yr wyf fi, fod ohonynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegid ti a’m ceraist cyn seiliad y byd.