Llyfr Hosea 1:6
A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Galw ei henw hi Lo-rwhama; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Is rael; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel.
Cross References
2 Kings 17:20A’r ARGLWYDD a ddiystyrodd holl had Israel, ac a’u cystuddiodd hwynt, ac a’u rhoddodd hwynt yn llaw anrheithwyr, nes iddo eu bwrw allan o’i olwg. º
Isaiah 27:11Pan wywo ei brig hi, hwy a dorrir: gwragedd a ddaw, ac a’i llosgant hi,, canys nid pobl ddeallgar ydynt: am hynny yr hwn a’u gwnaeth ni thosturia wrthynt, a’r hwn a’u lluniodd ni thrugarha wrthynt. º
Hosea 2:23A mi a’i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy Nuw.
Amos 7:8A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.
1 Peter 2:10Y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobi i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd.