Llyfr Hosea 10:14
Am hynny y cyfyd terfysg ymysg dy bobl, a’th holl amddiffynfeydd a ddinistrir, fel y darfu i Salman ddinistrio Beth-arbel yn amser rhyfel; lle y drylliwyd y fam ar y plant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Kings 17:16A hwy a adawsant holl orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau to: gwnaethant hefyd lwyn ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal. º
2 Kings 18:33A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria? º
Isaiah 13:16Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a ysbeilir, a’u gwragedd a dreisir. º
Isaiah 22:1AICH glyn gweledigaeth. Beth a ddarfu i ti yn awr, pan ddringaist ti, oll i nennau y tai? º
Jeremiah 13:14Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a’r meibion ynghyd, medd yr AR¬GLWYDD: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.
Hosea 13:16Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i’w Duw: syrthiant ar y cleddyf: eu plant a ddryllir, a’u gwragedd beichiogion a rwygir.