Llyfr Hosea 10:5
Preswylwyr Samaria a ofnant oher¬wydd lloeau Beth-afen; canys ei bobl a alara drosto, a’i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 7:2A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du y dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fynu, ac edrychwch y wlad. A’r gwŷr a aethant i fynu, ac a edrychasant ansawdd Ai.
1 Samuel 4:21A hi a alwodd y bachgen Ichabod; gan ddywedyd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; (am ddal arch Duw, ac am ei chwegrwn a’i gŵr.)
2 Kings 10:29Eto pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ni throdd Jehu oddi wrthynt hwy, sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel, a’r rhai oedd yn Dan. º
2 Kings 23:5Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldartha yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a’r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i’r haul, ac i’r lleuad, ac i’r planedau, ac i holl lu y nefoedd. º
2 Chronicles 13:8Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr ARGLWYDD, yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd; ac yr ydych yn dyrfa fawr, a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi.
Hosea 5:8Cenwch y corn yn Gibea, yr utgorn yn Rama; bloeddiwch yn Beth-afen ar dy ôl di, Benjamin.