Llyfr Hosea 12:10
Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 23:42Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob prïodor yn Israel a drigant mewn bythod:
1 Kings 13:1AC wele gŵr i DDUW a ddaeth o Jwda, * trwy air yr ARGLWYDD, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogl-darthu. º
1 Kings 17:1A Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel mai byw ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i. º
1 Kings 19:10Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sel dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau. º
Nehemiah 9:30Er hynny ti a’u hoedaist hwynt lynyddoedd lawer, ac a dystiolaethaist wrthynt trwy dy ysbryd yn dy broffwydi; ond ni wrandawsant: am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd.
Isaiah 20:2Yr amser hwnnw y bu gair yr AR¬GLWYDD trwy law Escia mab Amos, gan ddywedyd, DOS, a datod y sachliain oddi am dy lwynau, a diosg dy esgidiau oddi am dy draed. Ac efe a wnaeth felly, gan rodio yn noeth, ac heb esgidiau. º