Llyfr Hosea 12:14
Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe; ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13A thrwy broffwyd y dug yr ARGLWYDD Israel o’r Aifft, a thrwy broff¬wyd y cadwyd ef.
Cross References
Deuteronomy 18:18Codaf Brophwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchymynwyf iddo.
1 Samuel 2:30Am hynny medd ARGLWYDD DDUW Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr ARGLWYDD, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir.
1 Kings 2:33A’u gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei had ef yn dragywydd: ond i Dafydd, ac i’w had, ac i’w dŷ, ac i’w orseddfainc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr ARGLWYDD.
Ezekiel 18:13Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymmerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd-dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.
Ezekiel 24:7Oherwydd ei gwaed sydd yn ei chanol: ar gopa craig y gosododd hi ef, nis tywalltodd ar y ddaear, i fwrw arno Iwch:
Daniel 11:18Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i’w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a’i detry arno ef.