Llyfr Hosea 2:12
A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a’u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a’u difa hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 5:5Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi, torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa;
Isaiah 29:17Onid ychydig bach fydd eto hyd oni throir Libanus yn ddoldir, a’r doldir a gyfrifir yn goed? º
Jeremiah 8:13Gan ddifa y difaf hwynt, medd yr ARGLWYDD; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a’r ddeilen a syrth; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.
Jeremiah 26:18Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd; Seion a erddir fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed. º
Hosea 5:14Canys mi a fyddaf i Effraim fel llew, ac i dŷ Jwda fel cenau llew: myfi a ysglyfaethaf, ac a af ymaith; dygaf ymaith, ac ni bydd a achubo.
Hosea 13:8Cyfarfyddaf hwynt fel arth wedi colli ei chenawon; rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difaf hwynt: bwystfil y maes a’u llarpia hwynt