Llyfr Hosea 2:18
A’r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel, a dorraf ymaith o’r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17Canys bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi, ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau.
Cross References
Job 5:23Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi.
Psalms 46:9Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.
Isaiah 2:4Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
Isaiah 2:17Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a’r ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
Isaiah 26:1YDYDD hwnnw y cenir y gan hon yn nhir Jwda: Dinas gadarn sydd i ni; Duw a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur. º
Isaiah 65:25Y blaidd a’r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a’r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr ARGLWYDD.