Llyfr Hosea 9:10
Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal-peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd-dra fel y carasant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o’r enedigaeth, o’r groth, ac o’r beichiogi.
Cross References
Numbers 13:23A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorrasant oddi yno gangen âg un swp o rawnwin, ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o’r pomgranadau hefyd, ac o’r ffigys.
Numbers 18:13Blaen-ffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i’r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwytty o hono.
Numbers 25:3Ac ymgyfeillodd Israel â Baal-Peor; ac ennynodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel.
Deuteronomy 32:10Efe a’i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffaethwch gwag erchyll: arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad.
Judges 6:32Ac efe a’i galwodd ef y dwthwn hwnnw Jerwbbaal; gan ddywedyd, Dad¬leued Baal drosto ei hun, am fwrw ei allor i lawr.
2 Kings 17:11Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr ARGLWYDD o’u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio’r ARGLWYDD. º