Llyfr Eseia 11:11
Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Asyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 2:13Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.
Genesis 10:10A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalneh, y’ngwlad Sinar.
Genesis 11:2A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael o honynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant.
Leviticus 26:40Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio o honynt yn y gwrthwyneb i mi,
Deuteronomy 9:29Etto dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â’th estynedig fraich.
2 Kings 17:24II A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi. º