Llyfr Eseia 11:2
Ac ysbryd yr ARGLWYDD a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD; º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1YNA y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef. º
Cross References
Deuteronomy 34:9¶ A Josua mab Nun oedd gyflawn o yspryd doethineb; o herwydd Moses a roddasai ei ddwylaw arno: a meibion Israel a wrandawsant arno, ac a wnaethant fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
Isaiah 42:1WELE fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i’r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy ysbryd arno; efe a ddwg allaa farn i’r cenhedloedd. º
Isaiah 59:21A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr ARGLWYDD: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o’th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr ARGLWYDD, o hyn allan byth.
Matthew 3:16A'r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fynu o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn disgyn fel colommen, ac yn dyfod arno ef.
John 3:34Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd.
John 15:26Eithr pan ddel y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn, sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi.