Llyfr Eseia 26:15
Ychwanegaist ar y genedl, O AR¬GLWYDD, ychwanegaist ar y genedl; ti a ogoneddwyd; ti a’i symudasit ymhell i holl gyrrau y ddaear. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Mewn adfyd, ARGLWYDD, yr ymwelsant a thi; tywalhasant weddi pa oedd dy gosbedigaeth arnynt. º
Cross References
Genesis 13:16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
Deuteronomy 4:27A’r Arglwydd a’ch gwasgara chwi ym mhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ym mysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwydd chwi attynt:
Deuteronomy 28:25Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr âi di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.
Deuteronomy 32:26Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gonglau, paraf i’w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion;
2 Kings 17:6Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. º
2 Kings 23:27A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda hefyd a fwriaf ymaith o’m golwg, fel y bwriais ymaith Israel, ac a wrthodaf y ddinas hon Jerwsalem, yr hon a ddetholais a’r tŷ am yr hwn y dywedais, Fy enw a fydd yno. º