Llyfr Eseia 5:24
Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith ARGLWYDD y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 5:12A’r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aipht, i gasglu sofl yn lle gwellt.
Deuteronomy 28:24Yr Arglwydd a rydd yn lle gwlaw dy ddaear, lwch a lludw: o’r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni’th ddinystrier.
1 Samuel 15:26A Samuel a ddywedodd with Saul, Ni ddychwelaf gyda thi; canys bwriaist ymaith air yr ARGLWYDD, a’r ARGLWYDD a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel. º
2 Kings 17:14Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr ARGLWYDD eu Duw. º
Job 8:17Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig.
Psalms 50:17Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef.