Llyfr Eseia 5:26
Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd o bell, ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear: ac wele, ar frys yn fuan y deuant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 72:8Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd.
Isaiah 10:3A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, ac yn y distryw a ddaw o bell? at bwy y ffowch am gynhorthwy? a pha le y gadewch eich. gogoniant? º
Isaiah 13:2Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion. º
Isaiah 18:3Holl drigolion y byd, a phreswylwyr y ddaear, gwelwch pan gyfodo efe faner tr y mynyddoedd, a chlywch pan utgano ag utgorn. º
Isaiah 39:3Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat? A dywedodd Heseceia, (? wlad bell y daethant ataf fi, sef o Babilon. º
Jeremiah 5:15Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr ARGLWYDD; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, aco ni ddeelli beth a ddywedant.