Llyfr Eseia 50:1
FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 25:39¶ A phan dlodo dy frawd gyd â thi, a’i werthu ef i ti; na wna iddo wasanaethu yn gaethwas.
Deuteronomy 32:30Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r Arglwydd arnynt?
2 Kings 4:1A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr AR¬GLWYDD: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo.
Nehemiah 5:5Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a’n merched yn weision, ac y mae rhai o’n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fod gennym i’w rhyddhau; canys gan eraill y mae ein meysydd a’n gwinllannoedd hyn.
Isaiah 59:1WELE, ni fyrhawyd llaw yr.ARGLWYDD, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed: º