Llyfr Eseia 50:10
Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr ARGLWYDD, yn gwrando ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw yr AR¬GLWYDD, ac ymddirieded yn ei DDUW. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Samuel 30:6A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, Bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr ARGLWYDD ei DDUW. º
1 Chronicles 5:20A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt, a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar DDUW yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd aarynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo.
2 Chronicles 20:20A hwy a gyfodasant yn fore, ac a aethant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned ohonynt, Jehosaffat a safodd, ac a ddy¬wedodd, Gwrandewch fi, O Jwda, a thrigolion Jerwsalem; Credwch yn yr ARGLWYDD eich Duw, a chwi a sicrheir; coeliwch ei broffwydi ef, a chwi a ffynnwch.
Job 23:8Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw fe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef:
Psalms 23:4Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.